Mae K-9 Mail yn gleient e-bost cod agored sy'n gweithio gyda bron pob darparwr e-bost.

<b>Nodweddion</b>

* Yn cefnogi cyfrifon lluosog
* Blwch Derbyn Cyfun
* Yn ofalus o breifatrwydd (dim olrhain o gwbl, dim ond cysylltu â'ch darparwr e-bost)
* Cydweddu cefndir awtomatig neu hysbysiadau gwthio
* Chwilio lleol ac ochr y gweinydd
* Amgryptio e-bost OpenPGP (PGP/MIME)

Gosodwch yr ap <a href="https://f-droid.org/packages/org.sufficientlysecure.keychain">OpenKeychain: Easy PGP</a> i amgryptio/dadgryptio'ch e-byst gan ddefnyddio OpenPGP.

<b>Cymorth</b>

Os ydych chi'n cael trafferth gyda K-9 Mail, gofynnwch am help yn ein <a href="https://forum.k9mail.app">fforwm cymorth</a>.

<b>Eisiau helpu?</b>

Mae K-9 Mail yn broject a ddatblygwyd gan y gymuned. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i wella'r ap, ymunwch â ni! Gallwch ddod o hyd i'n olrhain bygiau, cod ffynhonnell, a wici yn <a href="https://github.com/thunderbird/thunderbird-android">https://github.com/thunderbird/thunderbird-android</a>.
Rydym bob amser yn hapus i groesawu datblygwyr, dylunwyr, dogfennwyr, cyfieithwyr, trigwyr bygiau a ffrindiau newydd.
